Nid gwaed aderyn oen nac ŷch

(Gwaed digonol)
Nid gwaed aderyn, oen, nac ŷch,
Nac isop, nac offeiriad gwych,
  Na nant redegog, môr, na lli',
  All olchi fy halogrwydd i.

Ond, Iesu, yn dy waed y mae
Digonol rinwedd i'm glanhau;
  A hwn a'm gylch fel eira gwyn,
  Cysgodau Iuddewig ni wnaent hyn.

I'm cnawd a'm henaid nid oes hedd
Gan flin euogrwydd, mewn un wedd:
  Ond pâr hoff lais dy bardwn clau
  I'm hesgym drylliog lawenhau.
Cas. o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841

[Mesur: MH 8888]

gwelir: Pechadur wyf du iawn fy lliw

(Sufficient blood)
Not the blood of a bird, a lamb, or an ox,
Nor hyssop, nor a brilliant priest,
  Nor a running stream, a sea, or a flood,
  Can wash my defilement.

But, Jesus, in thy blood there is
Sufficient merit to cleanse me;
  And this around me like white snow,
  Jewish shadows did not do this.

To my flesh and my soul there is no peace
Because of grievous guilt, in any form:
  But the pleasant voice of thy dear pardon
  Causes my broken bones to rejoice.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~